Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 15 Mawrth 2018
Amser:
09.31 -
12.39
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4620
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Simon Thomas AC (Cadeirydd) Neil Hamilton AC Jane Hutt AC Nick Ramsay AC David Rees AC |
Tystion: |
Alison Gerrard, Swyddfa Archwilio Cymru Anthony Barrett, Swyddfa Archwilio Cymru Nicola Evans, Swyddfa Archwilio Cymru Martin Peters, Swyddfa Archwilio Cymru Ann-Marie Harkin, Swyddfa Archwilio Cymru Suzy Davies AC, Comisiynydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Georgina Owen (Dirprwy Glerc) Joanne McCarthy (Ymchwilydd) Owen Holzinger (Ymchwilydd) Ben Harris (Cynghorydd Cyfreithiol) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC a Mike Hedges AC.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar drefn ffioedd Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 gan Alison Gerrard, Aelod o Fwrdd Swyddfa Archwilio Cymru; Anthony Barrett, Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol; Martin Peters, Pennaeth Cyfraith a Moeseg, Swyddfa Archwilio Cymru; a Nicola Evans, Pennaeth Cyllid, Swyddfa Archwilio Cymru.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth mewn perthynas â'i ymchwiliad i'r tanwariant sy'n deillio o Benderfyniadau'r Bwrdd Taliadau gan Anthony Barrett, Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol; ac Ann-Marie Harkin, Arweinydd Archwilio Ariannol ar gyfer archwilio cyfrifon Comisiwn y Cynulliad, Swyddfa Archwilio Cymru.
7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth mewn perthynas â'i ymchwiliad i'r tanwariant sy'n deillio o Benderfyniadau'r Bwrdd Taliadau gan Suzy Davies AC, Comisiynydd y Gyllideb a Llywodraethu; Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad; a Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid, Comisiwn y Cynulliad.
8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
9.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod yr adroddiadau Cyfnod 1 ar Fil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.
10.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod llythyr gan y Pwyllgor Busnes ynghylch y newidiadau arfaethedig i'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas â Gweithdrefn y Cynulliad ar gyfer Gorchmynion Adran 116C yn y Cyngor a chytunodd i ymateb.
11.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft â rhai mân newidiadau.